Llythyr Thomas Harris i John Dunn
Disgrifiadau
Ganed John Dunn (neu Jack) yn Nowlais tua 1896. Ymunodd â'r Territorials cyn y rhyfel ac wedi i'r rhyfel ddechrau fe'i danfonwyd i Ffrynt y Gorllewin gyda'r South Wales Borderers. Ar noswaith y 31 Hydref 1914, achubodd Jack un ar ddeg o ddynion wedi'u hanafu, tra bod yr Almaenwyr yn saethu ato. Yn ôl Thomas Harris, milwr o Ferthyr oedd ymhlith y rhai a achubwyd, roedd y dynion a anafwyd wedi cael eu gadael ar ôl pan dynnodd y 2nd Battalion Welsh Regiment yn ôl o'u rhengau yn Gheluvelt. Cludwyd Thomas Harris a deg milwr arall un wrth un gan John Dunn yn ôl i ddiogelwch tŷ tu hwnt i'r rhengau, oedd wedi cael ei drawsnewid yn ysbyty. Ysgrifennwyd y llythyr yma gan Thomas i Jack yn Nhachwedd 1917.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment