Robert John Jones
Robert John Jones
Disgrifiadau
Ganed Robert John Jones yng Nglanconwy yn 1888. Symudodd i Abercynon i weithio fel glöwr a phriododd yn 1912. Cafodd e a'i wraig Catherine ferch ond bu farw'n ifanc. Yn fuan ar ôl hyn, penderfynodd Robert ymuno â'r fyddin, a dyna wnaeth ar 4 Ionawr 1915. Fe'i danfonwyd i Ffrainc a chredir iddo gael ei anafu ym mrwydr Loos. Anfonwyd i Iwerddon i ymadfer ac yn nes ymlaen, gwasanaethodd gyda'r 8th Bt. Welsh Regiment yn Mesopotamia, lle cwympodd yn sâl. Dychwelodd nôl gartref i Abercynon a chafodd ei ddadfyddino yn 1919.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment