Skip to main content

Ffermio

Disgrifiadau

Trawsgrifiad:

Hefin Bennett ydw i. Cefais fy ngeni ym 1932 a ffermwr ydw i. Fe wnes i ymuno â'r Ffermwyr Ifanc ym 1951. Dyna'r unig beth y gallwn ymuno ag ef; roeddwn yn byw yn y wlad. Roeddwn i'n byw tua 4 milltir o Langurig, lle'r oedd Clwb y Ffermwyr Ifanc. Ac yn y dyddiau hynny roedd rhaid naill ai cerdded, reidio beic, neu fynd ar dractor. Rwy'n cofio sawl tro yn y gaeaf, fy ffrind oedd yn byw yn y fferm nesaf.

Roedd gennym ni dractor Ferguson, heb oleuadau, heb gaban, ac fe fyddai e'n dal fflach lamp wrth i ni yrru a pharcio wrth y briffordd, ar bwys yr afon. Y rheswm pennaf am hynny fod yn rhaid i ni ddraenio'r dŵr allan o'r tractor a'i ail-lenwi i fynd adre os byddai'n rhewi. Roedd bod yn aelod o CFfI yn brofiad gwych, ac mae fy nyled i'r mudiad yn enfawr. Fe wnaethom ddysgu llawer ac fe gafodd effaith mawr ar ardaloedd fel Llangurig. Ar un adeg roedd mudiad y ffermwyr ifanc yn cael ei ystyried yn ffordd dda o ddod o hyd i ŵr neu wraig. Roedd pobl unwaith yn dweud am Langurig, ac rwy'n credu ei fod yn wir, y cyfan oedd angen arnynt oedd cofrestrydd parhaol. A wir i chi dyna ble ddaeth llawer ohonom o hyd i'n gwragedd ac mi rydw innau'n un o'r rheini a briododd ferch leol, diolch i'r Young Farmers.

Daeth faciwîs i'r ardal hon o Lerpwl a Phenbedw a byddent yn dod ar y trên o Benbedw neu Lerpwl i'r orsaf yma yn Llanidloes. Arhosodd rhai o'r plant yn yr ardal am gryn dipyn o amser. Ni aeth rhai ohonyn nhw'n ôl o gwbl, ac rwy'n meddwl yn aml pa mor galed oedd hi arnyn nhw, chi'n gwybod, i ddod o fywyd yn y ddinas i ardal wledig iawn. Dim cyfleusterau modern. Y rhan fwyaf ohonynt yn byw ar ffermydd; a'r iaith. Yn yr ardal hon, roedd y rhan fwyaf o'r ffermwyr yn Gymraeg eu hiaith ac fe aeth y faciwîs i gartrefi Cymraeg ac fe ddysgon nhw'r iaith yn ddigon sydyn. A daeth rhai ohonynt yn rhugl yn yr iaith cyn iddyn nhw fynd adref.

Fe es i ysgol leol. Rwy'n meddwl mai 30 ohonon ni oedd yn yr ysgol yn gyfan gwbl. Ysgol dau athro, dwy stafell ddosbarth. Dim cantîn modern bryd hynny. Byddem yn mynd â'n cinio yn ein bagiau ysgol, ac yna ar ddiwedd y 1940au daeth y cantinau, a oedd yn foethus iawn ar y pryd. Roedd yr ysgol yn ganolbwynt i'r gymuned bryd hynny. Byddem yn dibynnu cymaint ar yr ysgolion lle byddai'r prifathro ac athro o bosibl yn rhyw fath o arweinwyr yn y gymuned, ac roeddent yn gwneud cyfraniad mawr. Roeddent yn sefydlu grwpiau drama ac roeddent ynghlwm wrth y capeli. Roedd yn gyfnod pan fyddem yn difyrru'n hunain; doedd 'na ddim teledu.

Roedd etholiadau'n achlysuron pwysig y dyddiau hynny. Roeddwn i'n ddigon hen i ddeall beth oedd etholiad ym 1945, a daeth pob ymgeisydd i bob pentrefan a phentref a byddai tyrfaoedd yn ymgynnull ac roedd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato.

Cafodd ffermwyr gyfnod caled iawn iawn yn ystod y 1930au ac yna'n ddiweddarach yn y 30au a dechrau'r 40au dyma nhw'n prynu'r ffermydd mynyddig ac yn y pen draw plannu swcros a llarwydd arnynt. Ac wrth gwrs, dim ond ychydig o gaeau oedd ar ôl. Bu raid i bobl adael. Aeth tai â'u pennau iddynt. Fe gollon ni lawer o'r boblogaeth wledig. Eto roedd y goedwigaeth wedi rhoi llawer o waith i lafurwyr lleol bryd hynny, ond yna daeth peiriannau a mecaneiddio a chontractwyr preifat o'r tu allan. Aeth nifer y staff lawr i'r nesaf peth i ddim. Cafodd effaith drwm iawn ar amaethyddiaeth.

Owner:
Llanidloes High School
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
8/3/2011
Date originally created:
8/1/2010
Gwelediadau:
1879
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment