Hwyl gyda Sefydliad y Merched a Capel Brynsiencyn
Disgrifiadau
Mae'r ffilm gartref fer hon yn dogfennu cyfres o ddigwyddiadau cymunedol ym Mrynsiencyn, Ynys Môn. Ar ddechrau'r ffilm, mae'r dyrfa'n mwynhau 'priodas' dau aelod hŷn o'r gymuned gan ferch o ficer. Yna fe welwn gystadleuwyr yn cael trafferth cerdded gyda gwrthrych anhysbys (llysieuyn o bosib) rhwng eu coesau. Yr her yw rhoi'r llysieuyn (?) i mewn i'r llestr. Mae anhawster pellach o ddal ymbarél agored ar yr un pryd.
Yn dilyn yr hwyl gyda llysiau, mae bysiau'n gadael am barc difyrion 'Marine Lake and Ocean Beach' yn Y Rhyl. Mae aelodau Capel Brynsiencyn yn cael hwyl yn reidio'r 'dodgems', y trogylch, chwarae ar y stondinau a bwyta bwyd traddodiadol parciau difyrion, fel roc.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment