Skip to main content

Breuddwyd y Mini

Disgrifiadau

Trawsgrifiad

Fy enw i yw Owen Jones. Cefais fy ngeni ym Merthyr Tudful ar 5 Ebrill 1944. Roeddwn i'n fabi rhyfel. Roedd fy nhad yn gweithio yng nglofa Rock, Glyn-nedd. Rwy'n un o bedwar o blant; tri bachgen a merch. Roedd Merthyr ar y pryd yn lle eithaf llewyrchus, ond daeth y glofeydd, yr haearn a'r dur i ben maes o law.Es i'r ysgol, gynradd, mae'n rhaid fy mod tua phedair oed ac yna es i drwy'r ysgol ganol ac arhosais yn yr ysgol uwchradd tan oeddwn yn bymtheg oed.Dechreuodd fy arddegau yn yr amgylchfyd hwnnw, yn yr ysgol. Heb deimlo'n hunandosturiol, roeddwn yn fethiant, o ran addysg. Nid oedd ysgolion cyfun yn bodoli ar y pryd felly aros oedden ni tan ein pen-blwydd yn bymtheg oed. Ac yna roeddem yn chwilio am waith ac yn ystod y cyfnod hwnnw yn fy arddegau y cefndir diwylliannol yn ne Cymru fyddai chwaraeon ar ddydd Sadwrn a thafarndai ar nos Wener a nos Sadwrn. Chwaraeon oedd y 1950au i fi. Ychydig iawn o gynnydd o ran addysg, ond roeddem ni'n byw am bêl-droed. Fy arwr oedd dyn o'r enw John Charles. Roeddem ni i gyd eisiau bod fel fe. Roedd bywyd yn syml iawn, sbo.Ym 1959: y Mini. Cafodd ei lansio ac rwy'n meddwl mai dyma'r car a afaelodd yn ein dychymyg. Roedd y car ar y ffordd am £500 a breuddwyd cymaint o bobl oedd gweithio, cynilo a phrynu Mini.Gwyliau - fy mam oed yr hynaf o 13 o blant ac felly roedd gennym lawer o fodrybedd o gwmpas y lle, yn enwedig yn ne Dyfnaint. Byddem yn aml yn dal y South Devon Express o Gaerdydd i King's Weir a threulio amser gyda fy nghefndryd. Roedd hi'n costio £100 i fynd â ni, pedwar o blant, fy mam a 'nhad i Ddyfnaint am bythefnos.

Owner:
Birchgrove Comprehensive School
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
21/2/2011
Date originally created:
23/12/2009
Gwelediadau:
1619
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment