Skip to main content

Ysgol Capel Garmon, 1916

Disgrifiadau

 
Llewelyn Hughes, sy'n sefyll i'r dde o'r athrawes ifanc, a'i frawd, Hugh, sydd o flaen y prifathro, Mr W.G. Powell o'r De, a brawd arall iddyn nhw, Howell, sydd yr ail o'r dde yn y rhes flaen. Alice (merch Alice Jones, chwaer Lewis Andrew) yw'r un ^a gwallt hir yn y cefn. William Arthur Davies, sydd yn sefyll syth o flaen Alice, ac ar y dde iddo mae Abel Gwilym o Fryn Pwn, a fu'n byw yn ddiweddarach yn Beaver Grove, Betws y Coed. Nancy Llewelyn, o Blas yn Rhos, Capel Garmon, sydd ar y chwith i'r athrawes hy^n. Catrin Elin yw enw'r athrawes sy'n eistedd i lawr, ac roedd hi'n ail wraig i William Andrew (y mae ei lun yn y casgliad). 
Cafodd y llun ei dynnu ar achlysur gwobrwyo yn 1916 - pan dderbyniodd fy nhaid gopi o "A Brother's Ransom" gan Alice Lang "for good attendance". 

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2011
Date originally created:
1/1/1916
Gwelediadau:
1858
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment