Skip to main content

Pensil Coch o Drên

Disgrifiadau

Trawsgrifiad:

David Gwyn John yw'r enw a ces i'n ngeni yn Mehefin 1939 rhyw dri mis cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechre. Ces i'n ngeni mewn tŷ teras ym mhentre bach o'r enw Ynysforgan ar waelod Cwm Tawe. Heibio'r tŷ roedd yr hewl fawr a rheilffordd yn mynd i fyny'r cwm hefyd.

Es i'r ysgol yn y pentre nesa sef Ynystawe yn 1944. Yn y babanod roedd yna ddosbarth derbyn ac i weud y gwir roedd yr holl fabanod gyda'i gilydd trwy'r amser. Wrth symud i'r ysgol iau, er taw Cymraeg oedd yr iaith yn y babanod, doedd dim Cymraeg wedyn. Ro'n ni'n gorfod teithio ar draws dre Abertawe ac o'n ni'n neud hyn mewn bysiau cyffredin. Doedd 'na ddim bysiau ysgol arbennig yn fy nyddiau i.

Am ryw reswm, roedd diddordeb arbennig gyda fi mewn trafnidiaeth ac ro'n i'n treulio orie yn eistedd ar y wal tu fas i'r tŷ yn gwylio ar y traffig yn mynd heibio ac yn sylwi'n arbennig ar y bysiau o gwmni South Wales Transport a James o Rydaman a hefyd y United Welsh oedd â'u garej lleol yng Nghlydach. A dyna oedd 'n ffefrynnau i.

Beth yn arbennig am rai o'u bysiau nhw hefyd oedd ro'n nhw wedi cael eu hadeiladu yn ystod y Rhyfel ac roedd seddau caled o bren tu fewn iddyn nhw. Wrth gwrs roedd y peiriant oedd yn rhedeg y bws yn y blaen ac roedd platform ar y cefn lle fyddai'r tocynnwr neu'r 'conductor' yn sefyll a falle cerdded o gwmpas yn y bws yn derbyn arian.

Mewn tywydd braf, wrth gwrs, byddai teuluoedd yn mynd lawr i Abertawe, nid yn unig i siopa, ond falle mynd mlaen i Benrhyn Gŵyr neu i'r Mwmbwls. Ac os o'n nhw'n mynd i'r Mwmbwls dwi'n sicr fydden nhw'n mynd ar drên y Mwmbwls o Abertawe lawr i Ystumllwynarth neu i'r Mwmbwls. O'dd e'n fwy ar ffurf tram na trên i ddweud y gwir, ac o'dd e'n rhedeg ar drydan ac ro'dd pob cerbyd yn dala 106. Ac o'n nhw'n teithio fel arfer ar hyd y trac mewn parau felly o'dd 212 yn gallu teithio mewn seddau ar bob un o'r trenau. Ro'dd pobl yn teithio lawr i'r Mwmbwls neu i Ystumllwynarth. Dwi'n siŵr fydden nhw'n mwynhau taith ar y trên. O'n i'n mwynhau pob cyfle. Ond i fynd arno fe, yn yr haf yn arbennig, o'dd rhaid i chi sefyll mewn ciw hir a byddai'r trên yn cyrraedd yr orsaf yn Rutland Street a pawb yn gwthio arno ac yn syndod reit fyddai'r ciw yn diflannu jyst fel'na.

Wrth gwrs mae'r daith ar y trên wedi cael ei hanfarwoli gan y bardd Bryan Martin Davies yn y darn 'Glas' lle mae'n sôn am y pensil coch o drên yn mynd ar hyd y bae.

Tua 1959 clywais i fod y rheilffordd, oedd mor bleserus i fi ar y ffordd i'r Mwmbwls, yn cau. Ond heddi dwi'n edrych ymlaen falle at fath newydd o drafnidiaeth yn mynd i gludo pobl lawr tua cyfeiriad y Mwmbwls, sef bys sy'n gallu plygu yn y canol gyda drysau sy'n agor a cau a dwi'n siwr bydd y dyfodol hyd yn oed yn neud i bethe fel'na i swno'n hen ffasiwn.

Owner:
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2011
Date originally created:
23/12/2009
Gwelediadau:
2174
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment