Y tu fewn i'r Baddonau Glo Ager, Treharris, 1916
Disgrifiadau
Cyn bodolaeth baddonau glofeydd byddai'r glowyr yn arfer ymolchi mewn twb o flaen y lle tân. Byddai'n rhaid berwi'r dŵr ar y pentan mewn bwced a'i rannu gyda'r holl deulu a oedd yn gweithio yn y lofa. Ar 24 Mehefin 1916, roedd y 'Merthyr Express' yn falch o gyhoeddi mai'r baddonau pen pwll yn Nhreharris oedd y rhai mwyaf ysblennydd yn y deyrnas. Adeiladwyd y baddonau cyntaf yn Ne Cymru wedi i'r gweithwyr a'r cyflogwyr ymweld â Ffrainc, Gwlad Belg a'r Almaen. Roedd 70 o gawodydd yn ystafell ymolchi'r dynion ac 16 ychwanegol yn adran y bechgyn. Roedd ystafell ambiwlans wedi ei offeru'n dda yn gyfleus o dan yr un to er mwyn trin y dynion oedd wedi'u hanafu.
Ffynhonnell:
Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful (1992) "Valley Lives, book 1: schools and scholars of the Merthyr Tydfil valley.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment