Skip to main content

Gwrthdystiad yn erbyn carcharu terfysgwyr, Taf-Merthyr, 1936

Disgrifiadau

Gwelwyd cryn aflonyddwch a thrafferthion llafur mawr yn ystod y 1930au yng Nglofa Taf-Merthyr, Bedlinog, o ganlyniad i dwf undeb newydd (y 'company union') a oedd yn bygwth disodli Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Gwelwyd gwrthdaro treisgar rhwng aelodau o'r Ffed a'r glowyr nad oeddynt yn aelodau o'r Ffed neu a oedd wedi ymuno â'r undeb newydd. Daeth pethau i'r pen ym mis Hydref 1934, pan ddiswyddwyd 250 o aelodau'r Ffed a recriwtiwyd glowyr di-waith, nad oeddynt yn aelodau o'r undeb, yn eu lle. Wrth iddynt gerdded i'r pwll, gyda gosgordd o'r heddlu yn eu gwarchod, gwelwyd gwrthdaro ffyrnig ar y strydoedd. Cafodd hyd at 300 o bobl eu dwyn o flaen eu gwell am eu rhan yn y trafferthion.

Pan dderbyniodd y protestwyr rheini ddedfrydau llym, gwelwyd gwrthdystiadau enfawr yn ardal Treharris a chafwyd anerchiadau gan S. O. Davies, Arthur Horner ac eraill. Yn ôl Jim Griffiths, roedd cryn arwyddocâd i'r trafferthion ym Medlinog gan iddynt esgor ar ysbryd newydd ymhlith y bobl: 'a new spirit of revolt amongst our people ... determination to fight for our economic existence'.

Ffynhonnell:
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Merthyr Tudful, 'The unconquerable spirit: Merthyr Tydfil and District in the 1930s' (1993).

Owner:
Merthyr Tydfil County Borough Council, Central Library
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Ganolo
Copyright Details:
Llyfrgell Ganolog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2011
Publisher Ref:
GTJ03065
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2011
Date originally created:
1936
Gwelediadau:
3043
Ffefrynnau:
1

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment