Skip to main content

Gwersyll Arbennig Island Farm rhif 11, Pen-y-bont ar Ogwr, 1974

Disgrifiadau

Adeiladwyd Gwersyll Island Farm yn wreiddiol fel llety ar gyfer gweithwyr arfau y rhyfel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, serch hynny fe barhaodd yn wag hyd nes i'r milwyr Americanaidd gyrraedd ym 1943. Arhosodd yr Americaniaid yno hyd at Ddydd D gan adael y gwersyll yn wag unwaith eto, ond fe'i llenwyd drachefn gyda charcharorion rhyfel Almaenaidd.

Ar ei newydd wedd fe'i hadnabuwyd fel Gwersyll Carcharorion Rhyfel 198 ac, o Dachwedd 1944, Swyddogion Almaenaidd oedd mwyafrif y carcharorion. Ym 1945, dihangodd 72 o'r carcharorion hyn drwy dwnnel, serch hynny llwyddwyd i ddal pob un ohonynt.

Parhaodd Island Farm i gael ei ddefnyddio fel gwersyll carcharorion rhyfel wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Fe'i ailagorwyd fel Gwersyll Cyntaf Arbennig Almaenaidd rhif 11, ar gyfer ei ddefnyddio i gadw Uwch Swyddogion gan gynnwys tri Cadlywydd hyd nes ei gau a'i adael ym 1948.

Ffynhonnell:
Hawthorne, S M (1989) Island Farm Special Camp 11 for Prisoners of War. Bridgend: Brynteg Comprehensive School.

Owner:
Bridgend Library and Information Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr
Copyright Details:
Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Pen-y-Bont 2002
Publisher Ref:
GTJ01458
Eitem wedi’i llwytho:
8/10/2010
Date originally created:
1974
Gwelediadau:
2523
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment