Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 11 Ionawr 1918 [tudalen 1 o 8]
Disgrifiadau
Diolcha Owen i'w Fam am yr archeb bost oherwydd doedd ganddo ddim arian o gwbl a bu'n rhaid iddo fenthyg dau ffranc yr wythnos honno. Mae wedi bod yn yr ysbyty ers Dydd Mercher yn dioddef o'r dolur rhydd, ond mae'n teimlo llawer yn well yn awr. Mae tân da yn yr ystafell yn ystod y dydd a'r nos a chynhaliodd yr R. A. U. C. gyngerdd yn yr ystafell nesaf y noson flaenorol. Roedd hi'n bwrw eira Dydd Mawrth a chafwyd archwiliad a oedd yn golygu gorymdaith o ddwy awr. Pan oeddynt bron â chyrraedd pen eu taith fe'i gohiriwyd. Nid yw Owen yn meddwl y caiff unrhyw dâl tra bydd yn yr ysbyty. Mae yna dri ar ddeg o ddynion ar ei ward ef gyda 3 ohonynt yn gadael y diwrnod canlynol. Mae Owen yn bwyta bara a llaeth yn unig. Pendrona pam nad yw Tom [ei gefnder] yn derbyn ei barseli oherwydd fod llythyron a pharseli Owen yn ei ddilyn wrth iddo symud. Mewn ôl-nodyn yn y llythyr hwn, ysgrifenna :
'I had to go in front of the Captain last week, over a letter which I wrote to Mary last week I had put in the date we had come here, and so on. Ha Ha so you can see it is not easy to write a letter He torned[sic] it up'.
Ar ddiwedd ei lythyr dywed wrth Lizzie mai ei ginio Nadolig oedd cig eidion gwydn a thatws drwy'u crwyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment