Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 30 Gorffennaf 1917 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Bu Owen i 'gyfarfod' gyda Weslead a oedd yn pregethu'r bore hwnnw ac mae'n gweithio yn y prynhawn gan nad ydynt yn cael diwrnod o seibiant ar ddydd Sul. Sonia nad yw wedi derbyn parseli ac nid yw'n siŵr os ddylai ofyn am fwy gan nad ydynt yn cael eu dosbarthu i'r ffosydd. Gobeithia y bydd parsel yn cyrraedd pan nad yw i fyny ar y llinell. Roedd ei deulu wedi dweud wrtho bod Nicholas yn coginio tatws mewn tun bychan, a dywed Owen eu bod hwy'n gwneud hynny hefyd. Rhaid iddo fynd i'r gwely ar fyrddau caled ac nid yw'n gwybod pryd oedd y tro diwethaf iddo gysgu heb ei drowsus gan nad oes blancedi ar gael. Gorffenna ei lythyr drwy ofyn iddynt esgusodi'r sgribl gan nad ef sy'n gyfrifol.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment