Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 19 Mai 1917 [tudalen 1 o 8]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Owen at ei rieni o Wersyll Thirtle Bridge, Withernsea, Swydd Efrog. Roedd yn falch o dderbyn eu llythyr ddoe ac aiff ymlaen i ddisgrifio sut y bu ef yn gwarchod y gwersyll dros nos. Mae'r llythyr yn adlewyrchu'r anesmwythder cyffredinol sydd yn y gwersyll ynglŷn â'r ansicrwydd mae'r dynion yn ei wynebu. Mae Owen yn pryderu ynglŷn â newid ei wasgod rhag ofn y caiff ei anfon i ffwrdd hebddi.
Ysgrifenna :
'Mi ddylai pawb fod yn ddiolchgar [i]awn cael aros yma. mi fyddai yn rhyw fendith rhyfedd cae[l] y rhyfel yma dod i ben.'
Cwyna nad ydynt yn cael digon o fwyd a bod sôn y byddant yn cael hyd yn oed yn llai yfory. Mae'n meddwl am ei deulu a'r fferm ac ysgrifenna :
'Wel Dadi, ffordd mae defaid yn dod i ymlaen wedi mynd ir mynnydd, a ydi y ceffyl bach wedi mynd i Waingyttyn a ydych wedi gallu gyrru y llwyth gwair ffwrdd.'
Dywed Owen wrth Lizzie, wrth ymateb i'w chwestiynau, y byddai'n eithaf peth petai eisiau gweld y Doctor ei hunan a bod yn rhaid iddynt wylio'r hyn maent yn ei wneud rhag ofn y byddant yn cael eu hanfon i'r ystafell warchod. Mae Owen wedi bod i'r Eglwys yn Roos, rhai milltiroedd i ffwrdd. Mae'n gofyn am hanes ei ffrindiau a'i deulu.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment