Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 13 Mai 1917 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Owen o Zand le Mere ger Withernsea, Sir Efrog ar ôl gadael Bury bore dydd Gwener. Disgrifia'r daith i lawr i Withernsea gyda'r Catholigion. Mae'r gwahaniaethau yn eu ffyrdd addoli yn amlwg wrth i Owen gwyno nad yw'n hoffi eu ffordd o 'gymryd moddion' ac nad ydynt yn debyg i 'ni' o gwbl. Gofynna i'w chwaer fach a'i fam os ydynt wedi peidio â chrio ac os ydynt yn awr yn chwerthin fel ef. Disgrifia ei daith i Bury a diolcha iddynt am y parsel bychan a sonia ei fod wedi galw i mewn i Dafarn lle cafodd ef a'i gydymaith botel o gwrw. Roedd yn hynod o sychedig ac nid oedd wedi cael unrhyw beth i yfed ers gadael Llanidloes. Diwedda ei lythyr drwy ddweud nad yw hyd yn hyn wedi gweld unman sy'n cymharu â'i ddyffryn ei hunan, Llawryglyn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment