Skip to main content

Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 27 Chwefror 1917 [tudalen 1 o 2]

Disgrifiadau

Ymddangosa Owen yn ddigalon yn y llythyr hwn a anfonwyd o Wersyll Thirtle Bridge. Yn dilyn gorymdaith lle cafodd bothellau gwael ar ei draed cymhara'i hunan â hen geffyl sydd wedi ffwndro. Mae'n cwyno am yr amodau sy'n dirywio yn y tŷ coginio gydag ond wyth ohonynt yn gweithio yno yn awr yn hytrach nag un deg saith neu ddeunaw. Cymhara garfan o ddynion sy'n gadael am Ffrainc â haid o ddefaid yn cael eu hanfon at y cigydd. Sonia Owen hefyd am farwolaeth bachgen o'r enw Evan Davies mewn ysbyty'n Ffrainc, mae wedi sôn amdano o'r blaen wrth ei deulu. Roedd Evan wedi bod adref yn ddiweddar yn claddu ei frawd yn dilyn damwain beic. Gwna Owen sylw ar ba mor ofnadwy yw hi ar y rhieni yn colli dau fab ifanc.

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28690
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
27/2/1917
Gwelediadau:
1391
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment