Skip to main content

Llythyr a anfonwyd adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Owen Ashton o Lawryglyn, 3 Medi 1916 [tudalen 1 o 1]

Disgrifiadau

Mae Owen wedi symud i Wersyll Saethyddiaeth yn Hornsea, Swydd Efrog, ac yn y llythyr hwn disgrifia sut maent yn cael eu paratoi ar gyfer ymladd. Fe anfonwyd ef allan i'r 'ffosydd' ond dywedwyd wrtho gan y rheiny a oedd yn gadael y gwersyll na fyddai'n rhaid iddo weithio'n rhy galed dim ond saethu ar y maes. Mae'n nodi bod angladd wedi cael ei gynnal dydd Sadwrn; roedd un o'r milwyr wedi nofio allan yn rhy bell yn y môr ac wedi boddi, dyma'r trydydd i farw fel hyn hyd yn hyn. Sonia mai ychydig iawn o fwyd sydd ar gael ond bod dau YMC gerllaw a dywed 'Mi wnawn yn allright tra wnaiff y geiniog ddal'. Esbonia Owen mai cyflog y milwyr traed yw 3/0 a 4/0 bob pythefnos ac efallai y bydd angen mwy o arian arno'n fuan. Mae hefyd yn ystyried anfon gwasgod a phâr o sanau adref i'w golchi.

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Ashton, Owen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28687
Eitem wedi’i llwytho:
23/9/2010
Date originally created:
3/9/1916
Gwelediadau:
1446
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment