Skip to main content

Gwneud canhwyllau yn Abergorlech, 1895

Disgrifiadau

Cyhoeddwyd y cerdyn post hwn gan yr 'Excelsoir Photo Co. Ltd', Caerfyrddin ac mae'n cynnwys marc post 1906. Mae'n dangos tair gwraig yn gwneud canhwyllau yn Abergorlech ym 1895 (y ffotograffydd yw David Thomas, turniwr o Dan'r allt, Brechfa). Yn y llun gwelir y wraig oedrannus Hannah Jones, Banc, Abergorlech, gyda dwy o'r morwynion ar ei fferm. Mae Hannah Jones yn gwisgo'r dillad gwlanen a'r het dal (befar) sy'n gysylltiedig â'r 'Wisg Gymreig draddodiadol'. Erbyn y dyddiad hwn, serch hynny, byddai'n ddigwyddiad anarferol iawn i weld gwraig yn gwisgo dillad o'r fath, hyd yn oed yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae'n ddigon posibl bod y wraig oedrannus wedi gwisgo'r dillad hyn, a oedd yn ffasiynol yn ystod ei hieuenctid, ar yr achlysur hwn ar gyfer y camera'n unig.

Mae'r merched wrthi'n cynhyrchu cyflenwad o ganhwyllau gwêr, ar gyfer eu defnydd hwy eu hunain yn ôl pob tebyg (er yn aml byddai merched yn cynhyrchu canhwyllau ar gyfer eu gwerthu). Defnyddiwyd canhwyllau gwêr yn ystod y Canol Oesoedd ac fe barhawyd i'w defnyddio hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif. Y ffordd symlaf o wneud y canhwyllau hyn oedd drwy glymu rhwymynnau cul o liain, rhyw chwech neu wyth ohonynt, ar ffon bren a'u trochi mewn twb o wêr berw. Byddai'r broses yn cael ei hailadrodd hyd nes y byddai'r stribyn gwêr wedi cyrraedd maint cannwyll.

Ffynhonnell: Iorwerth C. Peate, 'Tradition and Folk Life. A Welsh View' (London: Faber and Faber, 1972), tudalen 59 a F. G. Payne, 'Welsh Peasant Costume' yn ' Folk Life', Cyfrol II (1964), tudalen 53.

Owner:
Pembrokeshire Record Office
Crëwr:
Excelsior Photo Co. Ltd., Carmarthen
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Benfro
Copyright Details:
Archifdy Sir Benfro 2003
Publisher Ref:
GTJ23451
Eitem wedi’i llwytho:
22/9/2010
Date originally created:
1895
Gwelediadau:
3886
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment