'Slawer dydd ac ymhell i ffwrdd, Ysgol Babanod y Maerdy, 2010
Disgrifiadau
Lansiwyd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ym 1990. Y nod yw annog pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru i ymddiddori mwy yn eu treftadaeth ac yng nghyfraniad eu teuluoedd a'u cymunedau i'r dreftadaeth honno. Mae'r Fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer projectau treftadaeth yn ysgolion Cymru. Enillwyd gwobr Casgliad y Werin Cymru gan Ysgol Babanod y Maerdy gyda'r prosiect 'Slawer Dydd ac Ymhell i Ffwrdd. Ysgogodd y newyddion fod yr ysgol i gael ei chyfuno a'r ysgol Iau ymchwiliad i hanes yr ysgol dros y 100 mlynedd diwethaf cyn iddi golli ei hunaniaeth fel Ysgol Fabanod. Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn rhan o brosiect Comenius sy'n cysylltu plant a'i gilydd ledled Ewrop gan rannu eu gorffennol a'u presennol. Ac felly daeth natur y prosiect hanes yn amlwg, sef cyfuno bywyd ynysedig yr ysgol yn y gorffennol a'i statws presennol fel ysgol Comenius 'Slawer Dydd ac Ymhell i ffwrdd. Cyfranogodd yr holl ddisgyblion yn yr ymchwil ar lefel a gydweddai a'u grwp blwyddyn. Cyfranogodd yr holl gymuned a chyfrannu eu hymchwil i'r gorffennol. Trafododd hanesydd ac awdur lleol ei lyfr Maerdy School Days, gyda'r plant ac ymwelodd rhieni, teidiau a neiniau a hendeidiau a neiniau a'r ysgol i siarad am eu dyddiau ysgol. Dyddiau ysgol oedd y dewis amlwg i'r plant, ac ymchwiliwyd i ffasiynau, cyfnod y rhyfel, a chaneuon ar hyd yr oesoedd, gan ddarganfod sut roedd yr amserau wedi newid. Daeth y llyfrgelloedd lleol a hen bapurau a ffotograffau i'r ysgol a fachodd ddiddordeb y plant. Taflodd eu cysylltiadau a Thwrci a'r Almaen oleuni ar sut mae pobl eraill yn byw. Clywsant am y gorffennol, am draddodiadau'r gwleydd hyn a rhannu eu treftadaeth Gymreig gyda nhw trwy ddawns a stori a chan. Bu rhai athrawon ar ymweliadau cyfnewid a'u hysgolion cysylltiedig, gan ddod a dimensiwn newydd i'w dysgu. Dathlodd y blynyddoedd cynnar dreftadaeth Maerdy a Chymru, trwy edrych ar gofebion cenedlaethol. Cyflwynodd y plant eu holl ymchwil mewn rhaglen fywiog a drama, canu a dawnsio ar gyfer rhieni, pobl leol a'r beirniaid. Cafwyd hyd yn oed 'rap' gan grwp o deidiau a neiniau am eu blynyddoedd cynnar yn yr ysgol. Dilynwyd y cyflwyniad gan gyfle i brofi gwahanol ddanteithion o Gymru, yr Almaen a Thwrci. Trwy'r prosiect hwn daeth y gorffennol yn fyw i'r plant. Mae'r ysgol yn sicr yn rhan o'i chymuned leol, a gobeithio y bydd y ddolen gyswllt hon yn parhau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment