Hofrennydd Sycamore yr Unol Daleithiau - Corea 1952
Hofrennydd Sycamore yr Unol Daleithiau - Corea 1952
Disgrifiadau
Mae'r deunydd hwn yn cefnogi gwaith prosiect Gwasanaeth Cenedlaethol Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Dyma ffotograff o hofrennydd Sycamore yr Unol Daleithiau a dynnwyd gan filwr o gatrawd y Milwyr Cymreig yn ystod rhyfel Corea. Esboniodd Bernard Phillips o Lanelli, perchennog y ddelwedd, sut yr oedd y milwyr Prydeinig wedi synnu wrth weld hofrennydd, llawer ohonynt am y tro cyntaf. Gellir gweld casgliad o ddeunydd sy'n ymwneud â gwasanaeth Bernard ar-lein yng nghasgliad Bernard yn Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment