Hanes naratif o brofiad David Norris o Wasanaeth Cenedlaethol a gyrfa yn y Llynges Fasnachol
Disgrifiadau
Mae'r deunydd hwn yn cefnogi gwaith prosiect Gwasanaeth Cenedlaethol Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Galwyd David Norris o Aberporth i fyny i'r Gwasanaeth Cenedlaethol ym 1952. Gwasanaethodd am ddwy flynedd gyda'r Corfflu Signalau Brenhinol, gyda'r rhan fwyaf o'i wasanaeth wedi'i gwblhau dramor. Ar ôl gadael y Fyddin, aeth ymlaen i fwynhau gyrfa hir yn y Llynges Fasnachol a theithiodd yn helaeth ar sawl llong. Mae David a'i wraig Marion wedi darparu ffotograffau a deunydd o'i wasanaeth yn y Fyddin a'r Llynges Fasnachol, sy'n dod â'i stori yn fyw. Gellir gweld y casgliad llawn ar-lein yng nghasgliad Gwasanaeth Cenedlaethol Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar wefan Casgliad y Werin Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment