Dau olygfa gynnar o'r Drenewydd, John Owen, tua 1865
Disgrifiadau
Tynnwyd y delweddau stereograff hyn gan John Owen a sefydlodd ei stiwdio ffotograffig yn Broad Street ym 1862. Mae Delwedd 1 yn olygfa o Broad Street, a dynnwyd ychydig y tu allan i stiwdio Owen yn rhif 19. Yr adeilad ar ddiwedd y stryd oedd siop wreiddiol Pryce Jones, arloeswr cynnar archebu drwy'r post, y mae ei enw'n ymddangos uwchben y drws. Delwedd 2 o'r Bryn uwchben Crescent Street ac mae'n edrych i lawr ar draws y Bont Hir ac ymlaen i Broad Street. Mae'r simnai dal yng nghanol y chwith yn nodi lleoliad Ffatri Wlanen Union Street. Fel llawer o adeiladau tebyg yn y dref, fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol fel ffatri gwehyddu â llaw yn y 1830au ond fe'i trowyd i bŵer stêm ychydig cyn i'r ffotograff hwn gael ei dynnu. Mae'r ddau ffotograff hyn yn cynrychioli'r delweddau ffotograffig cynharaf o'r Drenewydd a fodolai.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment