Ymweliad Cymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi i Plas yr Hafod ym 1911
Disgrifiadau
Aelodau Cymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi yn ystod ymweliad a'r Hafod ar 26 Mehefin 1911. Mr Thomas James Waddingham, perchennog yr Hafod, yw'r dyn gyda barf gwyn yn eistedd 4ydd o'r chwith yn y rhes flaen. I'r chwith ohono fe mae Miss James, yr 'Housekeeper' (mewn du). Mae Mr Morris Davies ar y dde yn sefyll y tu ol i'r dyn mewn het 'bowler' a Mrs Morris Davies yw'r ddynes heb het o gwbl. Y tu ol iddi hi mae Dr Morgan. yn bresennol hefyd mae: J. H. Davies; Col. Fitzwilliams; Dr Edward Roberts; Parch. M Morgan, Capel Bangor; M.H. Jones, Penllwyn; R.D. Williams, Gwnnws; E.J. Davies, Bangor Teifi; T.J. Samuel; Yr Athro Timothy Lewis; Parch. Herbert Morgan; R.G. Phillips; Mrs Lloyd, Llwynneudfor; Mr a Mrs R.J. Jones; Mrs Everard Jones, Aberystwyth; Mrs Lloyd, Tregaron; Parch. Noah Jones, Ficer Eglwys Newydd; Parch. J. Francis Lloyd, Llanilar; a'r Parch. George Eyre Evans, Arolygydd Henebion.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment