Skip to main content

Coffa Da Mrs E. J. Jones, Cwm Penmachno 1933 (Marnine Grey Jones (McNaughton gynt)

Disgrifiadau

Pennillion coffa gan Dewi Mai o Feirion er cof am Marnine Grey Jones, (24 Mai 1905 - 13 Mawrth 1933) (McNaughton gynt) o Fwthyn Penlan, Cwm Penmachno. Roedd Marnine yn wraig i Evan John Jones (1891-1967) cigydd o Gwm Penmachno. Wedi'i geni a'i magu yn Nolwyddelan, yn ferch i Gipar o'r Alban (David McNaughton (1862-1935), roedd Marnine yn gerddor a chyfeilyddes o fri. Bu'n cyfeilio mewn sawl cyngerdd yn ogystal â chorau lleol, ac yn rhoi gwersi piano. Bu farw o'r Ddarfodedigaeth yn 27 oed, chwe mis ar ôl rhoi genedigaeth i'w thrydedd plentyn, Elizabeth May Jones (1932-2005). Roedd Elizabeth yn fam i'r dramodydd a'r beirniad theatr, Paul Griffiths.

Owner:
Paul Griffiths
Crëwr:
Dewi Mai o Feirion / argraffydd J. Lloyd Roberts, Llanrwst
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
J. Lloyd Roberts, Llanrwst
Eitem wedi’i llwytho:
12/8/2025
Gwelediadau:
67
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment