Skip to main content

Sgwrs gyda Tyssul Evans, ffermwr llaeth wedi ymddeol.

Disgrifiadau

Cynghorydd Sir Gaerfyrddin Tyssul Evans mewn sgwrs gyda Anthony Rees. Ffermwr llaeth wedi ymddeol yw Tyssul ac mae’n dwyn i gof ei blentyndod a’i fywyd gwaith ar ffermydd cymysg / llaeth Sir Gaerfyrddin (Penllywnteg ym Mynyddygarreg a Felin-y-Glyn Cydweli) ac yn hel atgofion am arferion ffermio llaeth ac yn rhannu hanesion. Mae Tyssul yn cofio defnyddio'r stand laeth a'r gyrwyr lori laeth. 

Dyma grynodeb manwl o’r cyfweliad hanes llafar a wnaed gyda’r ffermwyr llaeth Tyssul Evans o ardal Mynydd y Garreg, Sir Gaerfyrddin. Cynhaliwyd y cyfweliad yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, gan Anthony Rees, fel rhan o brosiect Standiau Llaeth Sir Gaerfyrddin (recordiad 2025).

Ar ddechrau’r cyfweliad cawn ychydig o hanes Tyssul Evans. Cafodd Tyssul ei fagu ar fferm Penllwynteg / Penllwyn Teg rhwng Mynydd y Garreg a Pedair Heol. Ganed ef yn 1948 a mynychodd Ysgol Ramadeg Caerfyrddin. Yn 1963 gadawodd yr ysgol a dechrau ffermio gyda’r teulu - ei freuddwyd. Yn 1963 roedd ganddynt 20 o wartheg ar y fferm a chwpwl bach o ddefaid, a 7 ‘churn’ (can mawr i ddal llaeth) i’w gosod ar y stand laeth. Erbyn 1998 roedd 87 buwch ar y fferm.

Aiff Tyssul ymlaen yn y cyfweliad i sôn yn fanwl am hanes standiau llaeth ar y fferm deuluol. Codwyd y stand laeth gyntaf ym Mhenllwyn Teg yn y 1950au, sef stand ffrâm goed a cherrig. Ddiwedd y 1950au, ail-adeiladwyd y stand laeth gyda choncrid, cerrig a brics ail-law o waith brics coch Trimsaran. Casglwyd y cerrig bob gwanwyn a ddefnyddiwyd ar gyfer y stand o gaeau’r fferm. Roedd gan y stand fframyn metel a oedd yn medru dal 12 ‘churn’. Yn ystod y cyfweliad roedd y stand yn dal i sefyll. Yn 1965 prynodd y teulu fferm gyfagos Melin y Glyn, ond erbyn hyn mae’r stand laeth wedi dymchwel. Ddiwedd y 1960au i’r 70au cynnar mae Tyssul yn cofio’r stands llaeth yn cyrraedd diwedd eu hoes, a ffermwyr yr ardal yn mewnosod parlwr a thanciau llaeth. Rhoddwyd gorchymyn i ffermwyr ddanfon eu ‘churns’ yn ôl i’r ffatri, ond mae Tyssul hyd heddiw yn difaru gwneud, gan eu bod nhw’n mynd fel scrap! Mae Anthony, y cyfwelydd, yn sôn am ffotograff o 1979 o ardal Hendy Gwyn sy’n nodi “the last ‘churn’ collection”.

Soniodd Tyssul am y ffaith fod llaeth y fferm yn mynd i sawl ffatri laeth - Hendy Gwyn, Tre Ioan, Pensarn, Pontarddulais a Llangadog. Roedd ganddo stori am streic ganol y 1960au pan oedd yn rhaid i’r ffermwyr eu hunain ollwng y ‘churns’ llaeth yn y ffatri. Taflwyd y llaeth hynny i’r afon, er i’r ffermwyr gael eu talu. Roedd Tyssul yn cofio’r Afon Tywi yn wyn. Bu streic am 2-3 diwrnod. Roedd e’n sialens i fynd a’r ‘churns’ i’r ffatri.

Yn ôl Tyssul a’i dad, y peth gorau a ddigwyddodd i ffermwyr oedd sefydlu’r Bwrdd Marchnata Llaeth gan fod y ffermwyr yn derbyn eu harian yn rheolaidd. Cynt, roedd tad Tyssul yn gwerthu ei laeth o adref. 

Trafodwyd siâp, maint a gwneuthuriad ‘churns’ yn ystod y sgwrs, a soniodd Tyssul bod ei dad yn arfer mynd â’r ‘churns’ i orsaf rheilffordd Pontnewydd lle cludwyd y llaeth i Abertawe. Mae Anthony a Tyssul yn trafod y gwahaniaeth rhwng pwysau ‘churns’ wahanol. Cyfeirir at drên y Cardi Bach (rheilffordd o Hendy Gwyn i Aberteifi) a oedd yn cludo ‘churns’ mawr.

Mae Tyssul hefyd yn cyfeirio at y dynion a oedd yn gyrru’r lori laeth, ac aiff ati i enwi gwahanol yrwyr, gan ddweud straeon hynod a diddorol amdanynt. Ymhlith yr unigolion oedd Doug Hicks (o ardal Llanpumsaint), Glan Morris (llysenw Sooty o ardal Llangyndeyrn), John Hesford (o ardal Tre Ioan), Titus Lewis (o ardal Llanfynydd) a Lloyd Jones (o ardal Llanpumsaint). Yn ôl Tyssul, roedd ambell i yrrwr lori yn fodlon aros am y llaeth os nad oedd y ‘churns’ wedi’u cludo mewn pryd i’r stand, a nifer yn gymwynasgar iawn. Roedd eraill serch hynny yn gadael, a’r ffermwr yn gorfod dilyn y lori i’r ffermydd nesa! 

Cyfeiria Tyssul hefyd at eira mawr 1963 (tua mis Mawrth), ac mae’n sôn am gwmni peirianyddol MLM yn clirio'r heolydd lleol. Er mai 15 oed oedd Tyssul ar y pryd fe oedd yn gyfrifol am gasglu’r ‘churns’ llaeth o nifer o ffermydd, a hynny am gyfnod o oddeutu pythefnos yn cynnwys ffermydd - Cae Gwyllt, Goitre Uchaf, Penllwynteg, Melin y Glyn, Penrallt, Glyn Bach, Cwm Bach, Tyn y Coed, Llwyn Bach, gan orffen yn Cwm Eynon ayyb. Roedd e’n casglu oddeutu 30 o ‘churns’ ac yn mynd i gwrdd â’r lori yn Pedair Heol. Mae hefyd yn sôn am drafferthion trosglwyddo llaeth yn ystod eira 1983.

Aiff y sgwrs ymlaen i drafod gwahanol fathau o wartheg, a’u nodweddion. Mae Tyssul yn sôn yn blaen am effaith dyfodiad yr Holstein yng nghanol y 1990au ar y diwydiant llaeth - y peth gwaethaf i ddigwydd yn ei dyb - gan nad oedden nhw’n cynhyrchu cig da ar ddiwedd eu bywyd.

Mae Tyssul yn cyfeirio at yr hen ‘mart’ yng Nghaerfyrddin ac yn cofio mynd yno yn ei amser cinio yn yr Ysgol Ramadeg er mwyn gweld beth oedd y sefyllfa masnachu yn y diwydiant. Noda mai symud y mart allan o’r dref oedd y peth gwaethaf i ddigwydd i Gaerfyrddin. Mae’n cofio ei dad yn mynd i’r mart (ar ddyddiau Mercher) ac yn dychwelyd adref gyda phedwar cytled o gegddu (hake). £1 oedd pedwar cytled bryd hynny. Roedd y pysgod yn cael eu gwerthu ochr draw i’r farchnad (roedd o leiaf pedair siop yn gwerthu pysgod yng Nghaerfyrddin bryd hynny) ac roedd y teulu wrth eu boddau gyda’r pryd bwyd - pawb a’i gytled ei hun.

Wrth drafod hynt a helynt y diwydiant llaeth, mae Tyssul yn sôn ei fod yn cofio gweld ei Fam-gu yn codi’r hufen o dop y llaeth a’i ddefnyddio i wneud menyn, ac mae Anthony yn cofio ei fam hefyd yn codi’r hufen o dop y ‘churns’ a’i ddefnyddio ar ddyddiau Sul, i’w weini gyda ‘tin peaches’ gan nad oedd hi’n credu y byddai’r braster yn cael ei wirio ar ddyddiau Sul! Mae Tyssul eto yn rhannu atgofion am wneud rhywbeth tebyg ar ddydd Nadolig.

Roedd gan Tyssul atgofion hefyd o rai ffermwyr yn bwrw tolc yn y ‘churns’ fel bod llai o laeth yn mynd mewn iddynt. Cofia Anthony hefyd am wraig fferm ‘busneslyd’ yn dringo ar gefn lori er mwyn archwilio faint o laeth roedd wahanol ffermwyr yn cynhyrchu, a hynny drwy edrych ar labeli’r ‘churns’. Er mwyn rhoi stop arni, ar un achlysur, roedd y gyrrwr lori wedi gadael y stand a hi ar gefn y cerbyd!

Cofia Tyssul hefyd am un fferm yn defnyddio’r twll a oedd yng nghanol y stand laeth i gynnau tân, er mwyn rhoi crochan yn y twll i ferwi’r dŵr a oedd ei hangen i ladd mochyn. Mae Tyssul yn cofio sgrechfeydd y moch wrth iddynt gael eu lladd. Byddai’r moch yn cael eu defnyddio i wneud ffagots ag ati, ac mae Tyssul yn cofio moch yn cael eu hongian yn yr ystafell fyw yn ystod ei blentyndod.

Sonia Tyssul hefyd am y glowyr yn helpu ar y fferm adeg cynhaeaf gwair. Fel arwydd o ddiolch byddai’r glowyr yn derbyn pryd o fwyd - bacwn, tato a chabetsien fel arfer, ac yn derbyn rhodd sef rhych o dato.

Mae’r cyfweliad drwyddi draw yn gyfoeth o dafodiaith cefn gwlad dde-orllewin Cymru.

 

 

Owner:
Anthony Rees
Crëwr:
Anthony Rees / Tyssul Evans
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
voice 6 Tyssul Evans
Eitem wedi’i llwytho:
23/3/2025
Date originally created:
13/3/2024
Gwelediadau:
163
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment