Skip to main content

Diwrnod dyrnu yn Tal y Cefn Uchaf, Llanfihangel Glyn Myfyr, 1916

Disgrifiadau

Diwrnod dyrnu yn Tal y Cefn Uchaf, , Llanfihangel Glyn Myfyr 1916. Yn y llun gwelir David Williams ei blant a'i wyr ynghyd a chymdogion o flaen yr injan stem a'r peiriant dyrnu
Mae David Williams yn sefyll o flaen ar y dde i'r olwyn fawr hefo cetyn yn ei geg.
Ar y chwith iddo mae ei ferch Elin a'i gwr Edward Roberts oedd wedi ymgartrefu gerllaw yn Hendre Glan Alwen, mae eu plentyn hynaf Edwin yn fabi ar fraich ei fam.
Gwelir hefyd yn yr ail res, y trydydd o'r chwith ei fab David Ellis Williams yn sefyll gyda picwach ar ei ysgwydd.
Yn y rhes flaen yn penlinio y pedwerydd o'r chwith hefo picwach yn ei law dde ar ci o'i flaen mae y mab ieuengaf Hugh Evan Williams oedd yn 18 oedd ar y pryd.
Yn anffodus does gennym dim enwau i'r morwynion ar cymodgion eraill yn y llun.
Credir fod yr injan ddyrnu o ardal Maerdy, Corwen

Owner:
Gareth Evans
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/2/2025
Gwelediadau:
214
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment