Skip to main content

David 'Dafydd' Richards, c.1900

Disgrifiadau

Ffotograff o David Richard yn y Coleg Diwinyddol, Aberhonddu, c.1900.

Ganed David Richards ar 10 Mawrth 1876 yn ‘Tanrallt’, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Thomas Richards, saer coed a thyddynnwr, a’i wraig Rachel. Pan oedd David tua deuddeg mlwydd oed, symudodd y teulu i’r Alltwen a gwnaethant eu cartref ar Graig Road yng nghysgod Graig yr Alltwen.
Pallodd ei iechyd oherwydd y darfodedigaeth yn 1903 a gorfu iddo ddychwelyd adref. I geisio adfeddiannu ei nerth cymerodd ddwy fordaith, y cyntaf i dde America yn 1904 a’r ail i Efrog Newydd yn 1905. Mae cofnodion yn dangos na chafodd fynediaid i UDA oherwydd ei afiechyd a gorfu iddo ddychwelyd i Gymru. Bu farw o’r salwch ar 8 Mehefin, 1906.

Owner:
Gareth Richards
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
24/1/2025
Gwelediadau:
111
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment