Skip to main content

Pecyn Ceiliog; brechdanau wedi lapio. Geirfa Chwarel Dinorwig.

Disgrifiadau

Y mae “tun bwyd” hwylus i'w gael yn awr i’r chwarelwyr i gludo i ginio gydag ef yn ei boced i'r chwarel. Cofiaf am y cyfnod y byddai’r brechdanau yn cael eu lapio mewn papur, neu gadach liain gwyn. Ceiliog y byddwn ni yn Chwarel Dinorwig yn galw pecyn o frechdanau felly. Clywais siarad fel hyn; “Y mae gen ti geiliog mawr iawn heddiw!” “Oes fachgen, diwrnod crempog oedd hi ddoe, wyt ti’n gweld, ac mae Jane wedi stwffio’r gweddill o’r grempog i mewn ar ben y brechdanau.” Y mae’n anodd dweud paham y gewlir ef yn geiliog; ond gwelaf fod hen air tebyg iddo a arferid am lapio rhywbeth fyny, sef ceilio, neu coilio, megys coilio rhaff, neu blygu lliain, ac yna daw yr enw ar y peth a goeliwyd, neu a lapiwyd, gyda’r terfyniad “og.” Hwyrach mai “coiliog” ydoedd hwn ar y dechrau. Gelwi’r Sais fyrbyd yn “snack,” tybed mai o’r gair “snag,” sef ysgithrddant y daeth? Gelwir pecyn cinio’r gweithwyr mewn rhai lleoedd yn Lloegr yn “fiddle,” am fod ei ffird yn debyg hwyrach. Dywedodd Sais wrthyf ddoe mai “snap” y gewlir ef yn y rhan o Loegr y perthai ef iddo. Clywais rai o goliers Pensilvania yn ei alw’n “Tomi” a chredaf mai dyna ydyw yn Neheudir Cymru hefyd; ac ewn’r botel fawr i gario diod i lawr i'r pwll glo ydyw “Jack,” ac nid rhyfedd gweled Tomi a Jack gyda’i gilydd. Llyfr, neu gyfrol ydyw ystyr y gair Saesneg “tome.”

Dywedodd ryw hen wraig wrthyf pan oeddwn yn fachgen:- “Byta di hwna, machgen i, mi ddaw dy fol yn gefn i ti rhyw ddiwrnod.” Wrth gwrs nid oeddwn yn deall yn llawn ystyr y dywediad ar y pryd.

18/07/1938

Herald Cymraeg

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
18/07/1938 Herald Cymraeg
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
9/12/2024
Date originally created:
12/12/2024
Gwelediadau:
165
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment