Caban Ponc Cil Haul, Penyrorsedd
Disgrifiadau
Newyddion Lleol- Dyffryn Nantlle
CABAN Ponc Cil Haul, Chwarel Penyrorsedd.
Yn ystod yr awr ginio dydd Llun diweddaf cynhaliwyd cyfarfod hwyliog yn Chwarel Penrorsedd i agor caban newydd Ponc Cil Haul. Y Mae’r caban hwn a adeiladwyd gan Mr. Owen Evans, saer maen y chwarel, fel plasdy o’i gymharu a’r hen gaban. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Rowland J. Owen, Carmel, a chafwyd anerchiad amserol ganddo ac atgofion am hen gabanau. Canodd Mr. E.J.Jones, Bryneithin, Penygroes, penillion i'r amgylchiadau, ar yr alaw “Dima Goch,”a phawb yn ymuno yn y cytgan. Cafwyd gair ymhellach gan Mr Morris Ellis Griffith, Carmel, ac adroddiad gan Mr. Griffith, Carmel, ac adroddiad gan Mr Griffith David Roberts, Groeslon. Siaradodd Mr Morris Williams Hendy, Pengroes, dan deimladau dwys wrth feddwl am ymadael o’r hen gaban. Dilynwyd gyda dynwarediad o hen gymeriadau gan Bryneithin, a deuawd, “Y Stwnsiwr Mawr,” gan Mr Robert H. Williams a Mr John Williams. Diweddwyd trwy ganu “Cwm Rhondda.” High Street, Penygroes, a ganodd Bryneithin;-
Pwy na frolia Owen Evan,
Owen Evan, ein saer maen,
Dyma batrwm iawn ar gaban
Nid yn null yr oes o’r blaen;
Dyma’i waith a dyma ninnau,
Pwy a gawn i daro tant,
Dowch a chanu, dowch a chwedlau,
Dyma gaban gorau’r Nant.
Hwyl i gwmni’r chwarel yma,
Hwyl i ninnau fechgyn glan,
Dyma rywbeth a’n cysura
Heb ein cadw ar wahan;
Gwyddom bawb fu ‘mhell yn rhywle
Or hen Ddyffryn ar ein tro,
Da cael cartref oddi cartref,
Beth tebycach?-dyma fo.
Dafydd Rees a Dafydd Hughie,
Dau o fechgyn gorau’r fro,
Dau fu’n planio, dau fu wrthi,
Yn syrfeio fflags ei do;
Gwn na welir gwell saerniaeth
Ar balasdai gwlad a thre,
Dyma gaban i'n gwasanaeth,
Wedi’i orffen yn ei le.
Rhaid rhoi heibio ganu ‘nhelyn,
Tra’n edmygu llawer un-
Pitar, yntau chwysodd dipyn,
Efo Owen Evans, Llyn;
Hwyl i weithwyr Penyrorsedd
Fod yn gefn i'r hen a’r gwan,
Dyna ris i fryn anrhydedd,
Dyna’r ffordd i wneud ein rhan.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment