Skip to main content

Syr John Williams (1840–1926), 1st Bt, GCVO

Disgrifiadau

'Yr oedd ei lyfrgell breifat yn parhau i gynyddu ac yntau cyn hyn wedi sicrhau mai i'w feddiant ef y deuai'r llawysgrifau gwerthfawr a oedd yn Peniarth, Sir Feirionnydd, pan fyddai'r perchenogion y ddeufrawd W. R. M. Wynne ac Owen Slaney Wynne (gweler yr ysgrif ar y teulu), farw. Yr oedd eisoes wedi penderfynu trosglwyddo'r llawysgrifau hyn a chynnwys ei lyfrgell ei hun i Lyfrgell Genedlaethol Cymru os sefydlid hi yn Aberystwyth. Yr oedd yn llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn cyd-weithio â phwyllgor llyfrgell genedlaethol Gymreig y coleg hwnnw. Pan benderfynodd is-bwyllgor o'r Cyfrin Gyngor a benodwyd gan y Llywodraeth (1905) mai Aberystwyth a gâi fod yn gartref i'r Llyfrgell Genedlaethol (a Chaerdydd i'r Amgueddfa Genedlaethol) naturiol oedd enwi Syr John Williams (yn y starter frenhinol a gafwyd yn 1907) yn llywydd cyntaf llys llywodraethwyr y Llyfrgell a oedd i gychwyn ei gyrfa yn Aberystwyth ar 1 Ionawr 1909.' -- William Llewelyn Davies

Fynhonnell:
Davies, W. Ll., (1953). WILLIAMS, Syr JOHN (1840 - 1926), barwnig, meddyg i'r teulu brenhinol, prif sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2024, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-JOH-1840

Owner:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales
Crëwr:
Mario Rutelli (1859–1941)
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Publisher Ref:
ARTUK_035
Eitem wedi’i llwytho:
23/10/2024
Gwelediadau:
248
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment