Lluniau a Glasbrint Rheilffordd y Mwmbwls, Abertawe
Disgrifiadau
Mae Jeff Phillips, artist lleol o fri, yn portreadu treftadaeth gyfoethog Abertawe yn ei luniau o dramiau Abertawe. Mae ei waith yn dangos y tramiau a oedd yn arfer tramwyo strydoedd Abertawe, gan adlewyrchu bywyd beunyddiol yr oes o’r blaen.
Mae ymroddiad Jeff i gynnal hanes lleol trwy ei waith celf wedi ei wneud yn ffigur poblogaidd yn y gymuned, ac mae ei luniau’n rhannu atgofion teimladwy o orffennol Abertawe.
Mae hanes tramiau Abertawe’n dyddio nôl i ddiwedd y 19eg ganrif pan ddechreuodd y tramiau oedd yn cael eu tynnu gan geffylau weithredu ym 1878, gan greu’r system rheilffordd gyntaf i gludo teithwyr yn y byd yn Abertawe. Erbyn 1900, roedd y system wedi esblygu yn sgil cyflwyniad tramiau trydan.
Yn anffodus, ym 1958, prynodd Trafnidiaeth De Cymru Reilffordd Abertawe a’r Mwmbwls, gyda’r trên olaf yn gadael Abertawe am y Mwmbwls am 11:52am dydd Mawrth, 5 Ionawr 1960.
Er eu bod wedi diflannu o’r strydoedd, mae etifeddiaeth tramiau Abertawe yn dal i fod yn rhan annatod o hanes y ddinas. Trwy luniau Jeff, daw’r etifeddiaeth yma’n fyw eto, gan ganiatáu i bobl gael cip ar gyfnod pan oedd y tramiau’n gyrru symudedd trefol yn Abertawe.
Os oes diddordeb gennych ymchwilio’n ddyfnach i hanes tramiau Abertawe, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Mae gan yr amgueddfa gasgliad helaeth o arddangosfeydd ac arteffactau sy’n dangos esblygiad cludiant yn y rhanbarth, gan gynnwys tramiau eiconaidd Abertawe.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment