Skip to main content

Margaret Ann Trace - Telynores

Disgrifiadau

Anfonwyd y lluniau hyn atom gan Sue Goddard, a ddywedodd:

Dyma luniau o fy hen hen fodryb, Margaret Ann Trace (a adnabyddid fel Maggie Ann).

Ganed Maggie Ann ar y 30ain o Fedi, 1886, yn 30 Stryd Fawr, Tredegar, Mon. Roedd hi a'i theulu yn siarad Cymraeg a Saesneg.

Yn ôl cyfrifiad 1891, roedd Margaret Ann yn pedair oed ac yn byw gyda'i dau frawd, John a Thomas, a'i rhieni, William a Caroline (née Minton). Roedd lletywr o'r enw William S Jones, o Ferthyr Tudful, a'i alwedigaeth oedd yn delynor, hefyd yn byw gyda nhw.

Aeth Maggie Ann ymlaen i ddysgu chwarae'r delyn deires a bu'n chwarae o flaen Brenin Edward VII. Dyma luniau ohoni yn y cyngerdd hwnnw. Rhoddwyd ei ffrog a'i thelyn i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar ôl ei marwolaeth, lle maent yn parhau i'w harddangos.

Roedd hi'n athrawes yn Ysgol Gynradd Stryd Earl, Tredegar, ac ni briododd gan ei bod hi'n caru ei gwaith. Yn y dyddiau hynny, nid oeddech yn cael parhau i addysgu os priodasoch.

Bu farw Maggie Ann ar y 25ain o Dachwedd, 1966, yn 80 oed, yn 8 Stryd Earl , y cartref lle bu'n byw am y rhan fwyaf o'i hoes.

Owner:
Sue Goddard
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
22/4/2024
Gwelediadau:
419
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment