Cinio a Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Penfro Hydref 2022
Disgrifiadau
Cyfarfod Blynyddol a Chinio Rhanbarth Merched y Wawr Penfro ym Maenor, Llwyngwair. Hyfryd oedd cael dod at ein gilydd i ddathlu a chyd-nabod gweithgareddau'r flwyddyn. Croesawodd Llywydd y Rhanbarth Bethan Picton-Davies, ein Llywydd Cenedlaethol Jill Lewis, Hazel Thomas Swyddog Datblygu Rhanbarth Penfro a'r gwestai gwadd Mair Jones Ysgrifennydd Rhanbarth Ceredigion. Cafwyd adroddiad ar y flwyddyn gan Bethan. Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn, gyda nifer o aelodau'r Rhanbarth yn dod i'r brig mewn sawl cystadleuaeth cenedlaethol. Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd Eisteddfod Tregaron, lle welwyd Premier y Ffilm "Gwlân, Gwlân Gwlana". Cawson ddangosiad o'r ffilm gan Mair Jones, pawb yn ei fwynhau yn fawr iawn. Noson bendigedig!
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment