Josef Herman 'JOE BACH' (2021)
Disgrifiadau
Dyma ffilm am amser yr Artist Josef Herman yn Ystradgynlais rhwng 1944-55, sgript a ysgrifennwyd gan Sonia Beck (Lighthouse Theatre) wedi selio ar gyfnodolion Josef Herman, gyda Adrian Metcalfe (Lighthouse Theatre) yn chwarae rhan Josef Herman. Yn y ffilm ceir taith gerdded o amgylch tref Ystradgynlais yn y 1950au pan oedd yn gartref i'r arlunydd mewnfudwyr o Wlad Pwyl, Josef Herman-'Joe Bach', cafodd Herman ysbrydoliaeth o'r dirwedd, y gymuned a glowyr yr ardal.
Perfformiwyd y ffilm ym mis Mai 2013 a mis Mai 2014 a rydym yn cwrdd ar artist (Metcalfe) ar strydoedd y dref mae'n mynd â ni i ymweld â'i hoff lefydd cyn mynd i'r Neuadd Les am wers gelf.
Mae'r ffilm hon wedi'i chomisiynu a'i hariannu gan Dîm Celfyddydau mewn Addysg Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Sefydliad Celf Josef Herman Cymru fel rhan o'r prosiect 'Mining Josef Herman'.
Roedd prosiect 'Mining Josef Herman' yn bartneriaeth dwy flynedd (2013-2015) rhwng Sefydliad Celf Josef Herman Cymru a Tate. roedd yn rhan o brosiect mwy o'r enw 'Transforming Tate Britain: Archives and Access', a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a derbyniodd Sefydliad Celf Josef Herman gyllid hefyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cynhyrchwyd gan Burst Productions ©Sefydliad Celf Josef Herman Cymru 2014.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment