Skip to main content

Telyn Pen Derwydd

Disgrifiadau

Prynwyd y delyn deires Gymreig hon mewn arwerthiant lleol ychydig o flynyddoedd yn ôl gan y telynor Cymrieg Steffan Thomas o Langristiolus.
Mae’n enghraifft ddiddorol gan fod arni nodweddion nas gwelir ar delynau Cymreig fel arfer, megis dyluniad yr ysgwydd a’r ebillion (pegiau tiwnio), sydd yn fwy nodweddiadol o delynau pedal symudiad sengl Ffrengig o’r 18fed ganrif. Fodd bynnag, y nodwedd fwyaf diddorol yw’r delweddau trawiadol a atgynhyrchwyd ar y seinfwrdd a’r plinth. Mae’r pennau derwyddon a’r dail derw yn debyg i’r ddelwedd a ddefnyddiwyd ar Geiniog Môn - tocynnau taliad o’r 18fed ganrif a roddwyd i weithwyr Mynydd Parys. Yn anffodus, nid ydym wedi gallu dyddio’r delyn hon nac adnabod ei gwneuthurwr. Efallai iddi gael ei chomisiynu gan rywun o Fôn â chysylltiadau â chymdeithasau Cymreig Llundain ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, gan gyflogi doniau un o’r gwneuthurwyr telynau a oedd wedi dianc yno o Baris yn ystod y chwyldro Ffrengig. Posibilrwydd arall yw bod y delweddau o dderwyddon yn awgrymu mai gwneuthurwr lleol â’i hadeiladodd - megis y telynor Richard Hughes (1826-1905) o Lanfair-yng-Nghornwy. Bydd angen rhagor o ymchwil i ganfod ei gwir hanes.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2024
Gwelediadau:
208
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment