Skip to main content

Telyn Llanerchymedd

Disgrifiadau

Y delyn oedd yn mynd a hi yn y Llan yn y 19eg ganrif ac a’r ddechrau’r 20fed ganrif, a rhai o delynorion gorau Cymru yn byw yn nhafarn y Britannia ar sgwâr y pentref. Daethpwyd i adnabod eu haelwyd fel ‘Cartre’r Delyn’ lle yr oedd bri mawr ar y traddodiad o ‘ganu cylch’ gyda’r tannau. Lledodd eu henwogrwydd drwy Gymru a bu iddynt rannu llwyfannau gydag enwogion y genedl gyda mawrion y byd cerdd yn ymweld â’r Britannia. Galwyd am eu gwasanaeth fel telynorion gerbron aelodau’r Teulu Brenhinol ar lawer achlysur. Gwahoddwyd hwynt fel telynorion swyddogol ar lwyfannau eisteddfodol yn lleol ac yn genedlaethol. Ymddangosant mewn cyngherddau a chymdeithasau ymhell ag agos, nid yn unig fel unawdwyr, ond hefyd fel cyfeilyddion i ddatgeiniaid. Buont yn cystadlu mewn sawl eisteddfod gan ennill nid yn unig gwobrau ariannol ond hefyd ambell i delyn deries newydd. Ar ddiwrnod ffair neu noswaith o haf dywedir i’r teulu amryddawn dynnu miwsig per o
dannau eu telynau, a gweision a morynion y ffermydd yn dawnsio step y glocsen. Yn nheulu Telynorion y Britannia gwarchodwyd cyfoeth hen linach ddi-dor traddodiad y delyn ym Môn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2024
Gwelediadau:
372
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment