Skip to main content

Telyn Cefn Mabli

Disgrifiadau

Yn 2014, prynodd Huw Roberts o Langefni yr hen delyn deires Gymreig hon gan wraig leol. Er nad oedd tannau arni, ac er ei bod yn dangos ôl y ‘pry’, mae wedi goroesi ac mae ei chyflwr yn arbennig o dda. Daeth i feddiant taid ei diweddar ŵr, y Gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, John Williams (1854-1921) o Frynsiencyn, tua 1912. Roedd ganddi gopi o lythyr a anfonwyd at John Williams gan y Parchedig John Davies o’r Fenni, a oedd yn datgelu ei hanes. Rhoddwyd y delyn fel gwobr gyntaf yn Eisteddfod y Fenni yn 1848 – un o nifer o eisteddfodau a drefnwyd gan Augusta Hall, ‘Arglwyddes Llanofer’, a’i gŵr, Syr Benjamin Hall, o Blas Llanofer ger
y Fenni. Mae plac ar wddf y delyn yn cofnodi’r gwneuthurwr – sef Bassett Jones o Gaerdydd, a’r rhoddwr – Charles Kemys-Tynte o Gefn Mabli, stad yn Sir Forgannwg. Mae arysgrif arall yn nodi ei bod yn destun nawdd gan y Frenhines Fictoria, ac mae’n cyfuno’r arwyddlun brenhinol gyda’r geiriau, ‘RHODD GAN EI MAWRHYDI’. Mae enw’r telynor buddugol wedi’i gofnodi ar y delyn hefyd, sef Edward Jones. Ychydig a wyddys am Edward Jones, dim ond ei fod yn delynor medrus o Lerpwl a oedd yn canu’r delyn hon o bryd i’w gilydd yn nhafarn y Ship yn Nulyn, yng nghanol y 19eg ganrif.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2024
Gwelediadau:
313
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment