Telyn Seiriol
Disgrifiadau
Y cyntaf o feibion John Jones ‘Telynor Môn’ i ennill enwogrwydd a pharch cenedl ar y delyn deires oedd Owen Jones ‘Telynor Seiriol’. Ganwyd yn nhafarn y Britannia, Llannerch-y-medd.Ei ewythr o Gaergybi, Owen R. Jones ‘Telynor Cybi’ (1829-1902) fu’n gyfrifol am ei hyfforddi, ac nid ei dad fel buasai rhywun yn ei ddychmygu. Ceir y cofnod cyntaf amdano’n gwasanaethu’r byd eisteddfodol yn 1873 pan ymddangosodd mewn cyngerdd mawreddog ar lwyfan Eisteddfod Lerpwl a Phenbedw. Flwyddyn yn ddiweddarach yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, enillodd delyn deires newydd. Roedd yn ŵr golygus a phan ymwelodd â Phlas Llanofer, ger y Fenni, roedd merch Arglwyddes Llanofer wedi mopio ei phen â’r telynor ifanc. Yn hoff o’i ddiod, yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd rhoddodd heibio nifer o bleserau’r byd a throdd at grefydd gan ymuno ag Urdd y Temlwyr Da. Daeth hefyd yn aelod selog o Gapel y Bedyddwyr ac yn y capel hwn yn Ebrill 1906 y trawyd
ef yn wael. Ychydig oriau wedyn roedd wedi marw o drawiad ar y galon, rhyw wythnos ar ôl ymddangosiad mewn cyngerdd yng Nghaergybi gyda’i gyfaill R. Môn Williams. Yn fuan wedyn cyhoeddwyd detholiad o englynion coffa iddo yn Y Clorianydd - pob un yn mynegi hiraeth ar ôl y telynor dawnus.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment