Ffotograff Cȏr Rhydaman, 1920
Disgrifiadau
Ffotograff o Gôr Rhydaman, 1920. Tynnwyd y llun swyddogol hwn i ddathlu llwyddiant y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cawsant y wobr gyntaf yn y Brif Gystadleuaeth Gorawl ddwy flynedd yn olynol - Corwen (1919) a'r Barri (1920).
Ffurfiwyd Côr Rhydaman yn 1917, o dan arweinyddiaeth Gwilym R Jones, organydd Gellimanwydd (Christian Temple ar y pryd). Daeth llwyddiant i’r Côr yn 1919, pan wnaethant ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Corwen, ac yna, am yr ail dro yn 1920 yn y Barri. Yn y tridegau daeth y Côr i ben, ond parhaodd corau capeli‘r ardal i berfformio gweithiau clasurol. Blynyddoedd wedyn, ar noswaith gymdeithasol yng nghaffi’r Canton, Rhydaman, daeth y syniad o ail ddechrau’r Côr, ac ym mis Mawrth 1947 fe’i ail sefydlwyd yn ffurfiol gyda swyddogion newydd, ac allan o saith ymgeisydd fe benodwyd Trefor Rees fel arweinydd y Côr, a’r cyfeilydd Howard Williams.
Yn mis Mawrth 1949, gwnaeth y Côr ei berfformiad cyntaf yng Nghapel Bethany, y gwaith oedd Stabat Mater, gan Dvorak. Unawdwyr y noson honno oedd Dilys Rees, Rowena Ralph, Llewelyn John a Tom Williams.
O 1958 hyd 1963 cafodd y Côr lwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol o dan arweinyddiaeth Hywel Gwyn Evans. Gorchest unigryw oedd ennill y goron driphlyg yn y gystadleuaeth i brif gorau yn 1958, 1959, 1960, ac mae ‘na sôn na chafodd y Côr ganiatâd i gystadlu yn 1961 o ganlyniad i’r llwyddiant hwnnw. Ond yn wir fe enillodd y côr yn Llanelli, 1962 a Llandudno, 1963!
Dros y blynyddoedd mae’r Côr wedi perfformio gyda chorau eraill e.e. yng Ngŵyl Genedlaethol Dewi Sant a gyda Chorau Cymysg Cymraeg yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain.
Arweinyddion y Côr yn dilyn Hywel Evans oedd Ronald Foster, Vyrnwy Jones, John Rhyddid Williams, Alun Bowen ac yna Indeg Thomas. Yn hynod o beth bu Indeg, yn ferch ddeuddeg oed, yn ddisgybl piano i’r dyn a gychwynnodd Gymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch, ‘nôl yn 1917, sef Gwilym R Jones, y cerddor medrus. Mae’n syndod fel mae’r cylch wedi troi, a dau ben llinyn bywyd hanesyddol y Côr, wedi dod ynghyd.
Ni allwn sôn am arweinyddion y Côr dros y blynyddoedd heb dalu teyrnged i gyfeilyddion medrus. Y cofnod cyntaf sydd gennym yw 1949 pan ‘roedd Hywel Williams yn gyfeilydd i Trevor Rees, ac, yn dilyn, Alan Rees, E. J. Edwards, Annie Thomas, Olwen Richards, Sally Arthur, Meinir Smith, Catrin Edwards a Gloria Lloyd.
Un peth sy’n sicr, mae ymrwymiad, mwynhad a balchder pob aelod o Gymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch, dros ganrif o flynyddoedd, wedi cyfrannu’n sylweddol i ysbrydoli cenedlaethau o gantorion ac unawdwyr yn yr ardal. Mae hefyd wedi bod yn rhan bwysig o gerddoriaeth a diwylliant tref Rhydaman a’r cylch.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment