Skip to main content

Ffotograff Cymdeithas Gorawl Rhydaman, c. 1953

Disgrifiadau

Ffotograff Cymdeithas Gorawl Rhydaman, c. 1950, a gymerwyd yn y Neuadd Les yn Rhydaman, a elwir heddiw yn Theatr y Glowyr. Nodir ar gefn y llun i'r côr berfformio'r Meseia yn ystod yr achlysur hwn.
Ffurfiwyd Côr Rhydaman yn 1917, o dan arweinyddiaeth Gwilym R Jones, organydd Gellimanwydd (Christian Temple ar y pryd). Daeth llwyddiant i’r Côr yn 1919, pan wnaethant ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Corwen, ac yna, am yr ail dro yn 1920 yn y Barri. Yn y tridegau daeth y Côr i ben, ond parhaodd corau capeli‘r ardal i berfformio gweithiau clasurol. Blynyddoedd wedyn, ar noswaith gymdeithasol yng nghaffi’r Canton, Rhydaman, daeth y syniad o ail ddechrau’r Côr, ac ym mis Mawrth 1947 fe’i ail sefydlwyd yn ffurfiol gyda swyddogion newydd, ac allan o saith ymgeisydd fe benodwyd Trefor Rees fel arweinydd y Côr, a’r cyfeilydd Howard Williams.

Yn mis Mawrth 1949, gwnaeth y Côr ei berfformiad cyntaf yng Nghapel Bethany, y gwaith oedd Stabat Mater, gan Dvorak. Unawdwyr y noson honno oedd Dilys Rees, Rowena Ralph, Llewelyn John a Tom Williams.

O 1958 hyd 1963 cafodd y Côr lwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol o dan arweinyddiaeth Hywel Gwyn Evans. Gorchest unigryw oedd ennill y goron driphlyg yn y gystadleuaeth i brif gorau yn 1958, 1959, 1960, ac mae ‘na sôn na chafodd y Côr ganiatâd i gystadlu yn 1961 o ganlyniad i’r llwyddiant hwnnw. Ond yn wir fe enillodd y côr yn Llanelli, 1962 a Llandudno, 1963!

Dros y blynyddoedd mae’r Côr wedi perfformio gyda chorau eraill e.e. yng Ngŵyl Genedlaethol Dewi Sant a gyda Chorau Cymysg Cymraeg yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain.

Arweinyddion y Côr yn dilyn Hywel Evans oedd Ronald Foster, Vyrnwy Jones, John Rhyddid Williams, Alun Bowen ac yna Indeg Thomas. Yn hynod o beth bu Indeg, yn ferch ddeuddeg oed, yn ddisgybl piano i’r dyn a gychwynnodd Gymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch, ‘nôl yn 1917, sef Gwilym R Jones, y cerddor medrus. Mae’n syndod fel mae’r cylch wedi troi, a dau ben llinyn bywyd hanesyddol y Côr, wedi dod ynghyd.

Ni allwn sôn am arweinyddion y Côr dros y blynyddoedd heb dalu teyrnged i gyfeilyddion medrus. Y cofnod cyntaf sydd gennym yw 1949 pan ‘roedd Hywel Williams yn gyfeilydd i Trevor Rees, ac, yn dilyn, Alan Rees, E. J. Edwards, Annie Thomas, Olwen Richards, Sally Arthur, Meinir Smith, Catrin Edwards a Gloria Lloyd.

Un peth sy’n sicr, mae ymrwymiad, mwynhad a balchder pob aelod o Gymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch, dros ganrif o flynyddoedd, wedi cyfrannu’n sylweddol i ysbrydoli cenedlaethau o gantorion ac unawdwyr yn yr ardal. Mae hefyd wedi bod yn rhan bwysig o gerddoriaeth a diwylliant tref Rhydaman a’r cylch.

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
14/12/2022
Owner:
Cymdeithas Gorawl Rhydaman a'r Cylch
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
30/1/2024
Gwelediadau:
259
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment