Rhaglen yr Eisteddfod gyntaf “Semi-National / Chair”, a chystadlaethau bandiau pres o dan nawdd Siambr Fasnach Llandilo / Llandeilo ar ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf 1926.
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Ar un adeg, cynhaliwyd sawl eisteddfod yn y dref bob blwyddyn, megis Eisteddfod y Plant, eisteddfodau'r capeli, a’r 'Semi-National Eisteddfod', fel yr enghraifft yma. Llywyddion y dydd oedd Mrs H. E. E. Philipps, Tregeyb, Llandilo a’r Major J. W. Bishop, Llwynhelyg, Llandilo. Arweinydd y dydd oedd y Parch. D. Ll. Morris (Llew Ogwy), Pengam. Roedd un gystadleuaeth ar y rhestr testunau yn gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol flaenorol. Mae'n debygol i'r eisteddfod gael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment