Rhaglen Pumed “Semi- National” Eisteddfod Blynyddol yn Neuadd y Farchnad ar ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf 1931
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Ar un adeg, cynhaliwyd sawl eisteddfod yn y dref bob blwyddyn, megis Eisteddfod y Plant, eisteddfodau'r capeli, a’r 'Semi-National Eisteddfod', fel yr enghraifft yma. Llywyddion y dydd oedd Miss Sheila Philipps, Tregeyb (Tregib), Llandeilo a’r Anrhydeddus Imogen Rhys, Castell Dinefwr (Dynevor).
Y beirniaid Cerdd oedd Dr Caradog Roberts (Mus. Doc Oxon) F.R.C.O. L.R.A.M. A.R.C.M, Rhos a George Llewellyn Esq. Mus Bac, L.R.A.M, A.R.C.M., Port Talbot.
Roedd ambell i gystadleuaeth ddiddorol ymhlith y rhestr destunau, megis Octette gan gyfansoddwr lleol, sef Cyng. B. Hughes; Action Song i blant dan 18; ac ysgrifennu llythyr dychmygol oddi wrth yr Arglwydd Rhys i Arglwydd Dinefwr (oedd yn gyfyngedig i aelodau Urdd Gobaith Cymru yn unig).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment