Rhaglen Eisteddfod y Plant yn y Drill Hall Llandeilo / Llandilo dan nawdd Pwyllgor Hysbysu a Chyhoeddu Tref Llandeilo ar ddydd Llun y Pasc, 6 Ebrill 1931
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Ar un adeg, cynhaliwyd sawl eisteddfod yn y dref bob blwyddyn, megis y 'Semi-National Eisteddfod', eisteddfodau'r capeli ac Eisteddfod y Plant, fel yr enghraifft yma. Llywydd y Bore oedd y Milwriad Delme Davies-Evans, D.S.O., D.O., Y.H., a Llywydd yr Hwyr oedd Arglwydd Dinefwr (Dynevor), sef Arglwydd Rhaglaw y Sir. Roedd cyfeilyddion Piano (Perdoneg) a Thelyn yn yr eisteddfod, ac roedd angen telyn ar gyfer nifer o gystadlaethau, gan gynnwys y canu penillion. Roedd unawd ffidil a “mouth organ” hefyd ymhlith y cystadlaethau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment