Rhaglen Eisteddfod yn y Drill Hall yn Llandeilo / Llandilo ar 14 Hydref 1922
Rhaglen Eisteddfod yn y Drill Hall yn Llandeilo / Llandilo ar 14 Hydref 1922
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig (Neuadd Fictoria), Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Ar un adeg, cynhaliwyd sawl eisteddfod yn y dref bob blwyddyn, megis y 'Semi-National Eisteddfod', eisteddfodau'r capeli, Eisteddfod Gadeiriol y Plant, ac eisteddfodau cyffredinol, fel yr enghraifft yma. Amanwy (Ammanwy) oedd arweinydd yr Eisteddfod hon, a gynhaliwyd yn y Drill Hall (Neuadd Ddinesig).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment