Skip to main content

Rhaglen Eisteddfod Gadeiriol y Plant yn y Drill Hall yn Llandeilo / Llandilo ar 9 Mehefin 1923

Disgrifiadau

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig (Neuadd Fictoria), Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Ar un adeg, cynhaliwyd sawl eisteddfod yn y dref bob blwyddyn, megis y 'Semi-National Eisteddfod', eisteddfodau'r capeli, ac Eisteddfod Gadeiriol y Plant, fel yr enghraifft yma.

Roedd yr Eisteddfod dan nawdd Urdd y Rechabiaid (Urdd Ddirwest), gyda’r elw yn mynd tuag at “Plant Urdd y Rechabiaid”. Y beirniaid oedd Dr. T. Hopkins Evans, Lerpwl (Cerddoriaeth) a D.R. Griffiths (Ammanwy), Rhydamman / Rhydaman (Adroddiadau). Ammanwy oedd yr arweinydd hefyd.

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
14/12/2022
Owner:
Anne Williams
Crëwr:
J. W. Thomas, Argraffwyr / Printers, Llandeilo
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
30/10/2023
Gwelediadau:
291
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment