Rhaglen dwy noson o Adloniant gan Christy Minstrels Llandilo / Llandeilo, yn y Drill Hall, Llandeilo, ar 29 a 30 Rhagfyr 1887
Rhaglen dwy noson o Adloniant gan Christy Minstrels Llandilo / Llandeilo, yn y Drill Hall, Llandeilo, ar 29 a 30 Rhagfyr 1887
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen o Adloniant gan Christy Minstrels Llandilo / Llandeilo, yn y Drill Hall (Neuadd Ddinesig), Llandeilo, ar ddydd Iau a Gwener, 29 a 30 Rhagfyr 1887. Y Cyfarwyddwr Cerdd oedd C. G. Phillips; a’r Rheolwr Llwyfan oedd J. Lafferty. Elw tuag at y sefydlu Clwb Llenyddol a Champfa i wirfoddolwyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment