Rhaglen Cyngerdd Mawreddog a Drama yn y Drill Hall, Llandilo / Llandeilo gan Barti Meibion ardal Llandeilo a Chymdeithas Ddramatig Bryn ar 18 a 19 Mawrth 1931
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Mawreddog a Drama Poblogaidd yn y Drill Hall, Llandilo / Llandeilo gan Barti Meibion ardal Llandeilo a Chymdeithas Ddramatig Bryn, Llwynhendy, ar ddydd Mercher a dydd Iau 18 a 19 Mawrth 1931, er budd Ysbyty Abertawe. Arweinydd y gyngerdd oedd Mr David Hughes, Llandeilo; y Cyfeilydd oedd Mr R. J. Evans, Midland Bank; y Caderyddion oedd Mr Isaac Harries, Towy Press Llandeilo, a’r Cynghorydd H. W. Griffiths, Gwili Hotel, Llandeilo. Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o hysbysebion diddorol ynghylch busnesau Llandeilo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment