Rhaglen Cyngerdd a Drama yn Llandilo / Llandeilo, er budd Ysbyty Abertawe, ar nos Fercher 4 Mehefin 1930 am 7:30 yh
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd a Drama yn Llandeilo, er budd Ysbyty Abertawe, ar nos Fercher 4 Mehefin 1930 am 7.30yh. Llywydd y digwyddiad oedd y Cyng I. Martin Davies, Llandeilo; yr Arweinydd oedd Mr Alcwyn Jones ATSC; a’r Cyfeilydd oedd Mr R. J. Evans, Banc Midland. Perfformiwyd y Ddrama gomedi - ‘John a Mary’, wedi’i hysgrifennu gan Derwenydd Morgan, ar nos Iau 5 Mehefin am 7.30yh, a hynny gan gwmni dramodol Cross Inn, a’r Cyfarwyddwr oedd Mr W. A. Jones. Cadeirydd y digwyddiad oedd W. Lewis Ysw., Canton, Llandeilo. Ceir nifer o hysbysebion diddorol o fusnesau tref Llandeilo yn y rhaglen hefyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment