Rhaglen Cyngerdd Mawreddog yn y Drill Hall Llandilo / Llandeilo ar 14 Hydref 1926
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Mawreddog yn y Drill Hall, Llandilo / Llandeilo ar 14 Hydref 1926. Ymhlith yr eitemau oedd canu unigol, adrodd ac unawdau offerynnol. Cadeirydd y digwyddiad oedd yr Is-Gyrnol W. L. Jones DL YH, Rhydaman. Y cyfeilydd oedd Miss Nancy Jones LRAM LTCL. Rhoddwyd elw’r digwyddiad tuag at Cymdeithas Nyrsio ardal y “North Ward”.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment