Skip to main content

Rhaglen Cyngherddau Mawreddog gan Gymdeithas Gorawl Unedig Llandilo yn y Drill Hall, Llandilo / Llandeilo ar ddydd Mercher ac Iau, 22 a 23 Gorffennaf 1925

Disgrifiadau

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngherddau Mawreddog gan Gymdeithas Gorawl Unedig Llandilo yn y Drill Hall (Neuadd Ddinesg / Neuadd Fictoria), Llandeilo ar ddydd Mercher ac Iau 22 a 23 Gorffennaf 1925. Arweinydd y digwyddiad oedd P. R. Daniel. Ymhlith yr artistiaid oedd y Soprano Madam Jeanette Christine, gynt o Gwmni Opera Chicago; y Tenor David Owen Jones, Unawdydd Cymro Americanaidd; ac eitemau gan y côr ei hunain. Y cyfeilyddion oedd Miss Nancy Jones LRAM; a Haydn Jones Mus. Bac, Penygroes. Cadeirydd y noson gyntaf oedd y Capt H. E. E. Philipps, Tregeyb; a’r ail noson oedd yr Is-gyrnol W. N. Jones, Rhydaman.

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
14/12/2022
Owner:
Anne Williams
Crëwr:
Harries Printers, Llandeilo
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
30/10/2023
Gwelediadau:
262
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment