Rhaglen Cyngerdd Mawreddog gan y ‘Royal’ Mountain Ash Glyndwr Male Choir yn y Drill Hall yn Llandilo / Llandeilo, y noson gyntaf ar 17 Ebrill 1923
Disgrifiadau
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Dyma raglen Cyngerdd Mawreddog gan y ‘Royal’ Mountain Ash Glyndwr Male Choir yn y Drill Hall (Neuadd Ddinesig / Neuadd Victoria) yn Llandilo / Llandeilo, y noson gyntaf ar 17 Ebrill 1923. Roedd y côr wedi canu yn y Tŷ Gwyn, Washington ac o flaen y brenin a’r frenhines yng Nghastell Windsor ar 18 Ebrill 1922. Arweinydd y noson oedd Yr Athro T. Glyndwr Richards, a’r Llywydd oedd yr Is-gyrnol Delme Davies-Evans DSO. Y ddau gyngerdd er budd Cȏr Merched Llandilo / Llandeilo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment